GCI UK Logo

Cyfeillach Croeso Cristnogol

Grace Communion International -  Cymru

Open Bible

Ein Credoau

Mae Grace Communion International yn gynulliad o aelodau, cynulleidfaoedd a gweinidogaethau mewn dros 100 o wledydd a thiriogaethau. Ein cenhadaeth yw byw efengyl Iesu Grist, a rhannu ynddi, a helpu aelodau i dyfu’n ysbrydol (Mathew 28:19-20).

Caiff Cristnogion eu hannog i gynyddu “mewn gras, ac mewn gwybodaeth o’n Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist” (2 Pedr 3:18). Mae Ysbryd Duw yn arwain yr eglwys at bob gwirionedd (Ioan 16:13). Yn unol â hyn, nid yw’r Datganiad o Gredoau hwn yn gredo caeedig. Mae Grace Communion International yn adnewyddu ei hymrwymiad at y gwirionedd ac at ddealltwriaeth ddwysach yn gyson, ac yn ceisio ymateb i arweiniad Duw trwy ei chredoau a’i harferion.

Crynodeb o’n Ffydd Gristnogol

  1. Mae yna un Duw— Y Tad, Y Mab a’r Ysbryd Glân.
  2. Gwnaeth Duw’r Tad bob peth trwy’r Mab, anfonodd y Mab dros ein hiachawdwriaeth ni, ac mae’n rhoi’r Ysbryd Glân i ni.
  3. Ganwyd Mab Duw, Iesu Grist, ein Harglwydd a’n Gwaredwr, i’r forwyn Fair, yn llwyr Dduw ac yn llwyr ddynol, ac mae’n ddatguddiad perffaith o’r Tad ac yn gynrychiolydd perffaith dynoliaeth. Dioddefodd a fu farw ar y pren dros bob pechod dynol, codwyd ei gorff ar y trydydd dydd ac esgynnodd i’r nefoedd. Saif ar ran dynoliaeth gyfan gerbron y Tad ac mae’n darparu’r ymateb dynol perffaith i Dduw. Gan iddo farw dros bawb, bu farw pawb ynddo, a daw pawb eto’n fyw ynddo.
  4. Mae’r Ysbryd Glân yn dod â phechaduriaid at edifeirwch a ffydd, yn rhoi sicrwydd i gredinwyr y cânt faddeuant ac y cânt eu derbyn fel plant annwyl Duw, ac yn gweithio ynddynt i’w cydffurfio i ddelwedd Iesu Grist.
  5. Y Beibl yw Gair ysbrydoledig ac anffaeledig Duw sy’n tystio i Iesu Grist. Mae’r Beibl yn llwyr awdurdodol ar bob mater ffydd ac iachawdwriaeth.
  6. Daw iachawdwriaeth trwy ras Duw yn unig ac nid trwy weithredoedd, a chaiff ei phrofi trwy ffydd yn Iesu Grist. Mae Crisnogion yn ymateb i lawenydd iachawdwriaeth wrth iddynt gynnull mewn cyfeillach reolaidd a byw bywydau duwiol yn Iesu Grist.
  7. Edrychwn ymlaen at atgyfodiad y meirw a bywyd yr oes a ddaw.

Cliciwch yma i gael y Datganiad o Gredoau llawn.

Mae credoau Grace Communion International, fel enwad, wedi eu seilio ar Ddiwinyddiaeth Drindodaidd sydd â Christ fel Ffocws

Prif bwyntiau Diwinyddiaeth Drindodaidd sydd â Christ yn Ffocws

I ddilyn, ceir rhai o breseptau sylfaenol y Ddiwinyddiaeth sydd â Christ yn Ffocws.

1.      Creodd y Duw Triunol bob un i gyfranogi trwy ddynoliaeth ddirprwyol Iesu Grist yn y berthynas gariadus y mae’r Tad, Y Mab a’r Ysbryd yn ei mwynhau.

2.      Daeth Y Mab yn ddyn, y dyn Iesu Grist, i ailgymodi pob dynoliaeth at Dduw trwy ei enedigaeth, ei fywyd, ei farwolaeth, ei atgyfodiad a’i esgyniad.

3.      Y Crist a fu farw ar y pren, a atgyfodwyd ac a fawrygwyd, yw cynrychiolydd dynoliaeth ar law dde’r Tad, ac mae’n denu pob un ato’i hun trwy bŵer yr Ysbryd Glân.

4.      Yng Nghrist, mae’r Tad yn caru dynoliaeth ac yn ei derbyn.

5.      Mae Iesu Grist wedi talu am ein holl bechodau — rhai’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol—ac nid oes dyled i’w thalu mwyach.

6.      Yng Nghrist, mae’r Tad wedi maddau ein holl bechodau, ac mae’n awyddus i ni droi ato.

7.      Gallwn fwynhau ei gariad dim ond pan fyddwn yn credu ei fod yn ein caru. Gallwn fwynhau ei faddeuant dim ond pan fyddwn yn credu ei fod wedi maddau i ni.

8.      Pan fyddwn yn ymateb i’r Ysbryd trwy droi at Dduw, credu yn y newyddion da a chodi ein pren i ddilyn yr Iesu, mae’r Ysbryd yn ein harwain at y bywyd newydd yn nheyrnas Duw.

Dolenni:

Cyflwyniad i Ddiwinyddiaeth Drindodaidd:
Duw wedi Ei Ddatgelu yn yr Iesu (dolen allanol)

Cyflwyniad Byr i Ddiwinyddiaeth Drindodaidd (pdf)

Os hoffech ymuno â ni, croesewir ymwelwyr yn unrhyw rai o’n gwasanaethau.